Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Chwefror 2021
Amser:
09.30 -
11.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11121
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Mark Isherwood AS Rhianon Passmore AS Mark Reckless AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Matthew Denham-Jones, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod rhithwir.
1.2 Nododd y Cadeirydd fod Nick Ramsay AS bellach wedi gadael y Pwyllgor, a diolchodd iddo am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Mark Isherwood AS fel aelod newydd o'r Pwyllgor.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru: Ymateb Archwilio Cymru i argymhellion y Pwyllgor - 22 Ionawr 2021
2.2 PTN 2 - Llythyr gan Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020-21 - 27 Ionawr 2021
2.3 PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Gwybodaeth am gyfalaf trafodiadau ariannol a chyllid canlyniadol fformiwla Barnett i Gymru - 21 Ionawr 2021
2.4 PTN 4 - Ail gyllideb atodol Llywodraeth Cymru - ymateb Llywodraeth Cymru - 19 Ionawr 2021
2.5 PTN 5 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - cyfraddau amhreswyl a throthwyon Treth Trafodiadau Tir (TTT) - 2 Chwefror 2021
2.6 PTN 6 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - 2 Chwefror 2021
2.7 PTN 7 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Gwaith modelu ar gyfer prydau ysgol am ddim - 9 Chwefror 2021
2.8 PTN 8 - Llythyr gan Hafal: Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - 17 Chwefror 2021
3 Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch trydedd gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
- Manylion pellach, drwy'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i wella’r broses o rannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd.
- Gwybodaeth bellach, drwy'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ynghylch cronfa galedi’r awdurdodau lleol, ac yn benodol ynghylch y fformiwla sy'n ymwneud ag arbedion a gollwyd gan awdurdodau lleol o ganlyniad i'r pandemig.
- Manylion pellach ynghylch y cyllid sydd wedi’i ddyrannu i gefnogi busnesau yn ystod y pandemig.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Trafod Cynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2021-22
6.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22 o dan Reolau Sefydlog 18.10(x) yn unol ag adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
7 Trafod papur y flaenraglen waith
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.